Chwilio am berfformwyr

Mae Cynyrchiadau Leeway yn chwilio berfformwyr sy'n fenywod

Mae Cynyrchiadau Leeway yn datblygu darn newydd o theatr sydd wedi’i eni o sgyrsiau y mae’r cyfarwyddwr Angharad Lee wedi’u cael gyda mamau sengl anhygoel.

Bydd y darn yn ddarn gain am airgan ddod â lleisiau a phrofiadau go iawn i ganol y gwaith, gyda sgôr gerddorol wreiddiol gan y cyfansoddwr a’r cerddor Lleuwen Steffan.

Mae Leeway yn chwilio am grŵp o fenywod i gyfrannu at y broses Ymchwil a Datblygu (Y&D) wrth i Angharad a Lleuwen ddechrau siapio ac archwilio tirwedd theatrig y darn.

Gyda’i gilydd, bydd y grŵp yn ein helpu i:

  • Archwilio sut y gall y sgôr, y sgript a’r cyfweliadau gwreiddiol ddod at eu gilydd ar y llwyfan.
  • Ymchwilio’n feirniadol i’r themâu, y syniadau a’r profiadau sydd wrth wraidd y gwaith.
  • Arbrofi a herio elfennau o’r sgript, gan helpu i lywio ei datblygiad.
  • Archwilio gwahanol ddulliau theatrig o adrodd y straeon hyn.
  • Arbrofi gyda cherddoriaeth, llais, testun a pherfformio.
  • Rhannu eich safbwyntiau, eich ymatebion a’ch greddfau eich hun er mwyn ein helpu i ddeall beth sy’n taro tant — a beth sydd ddim.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan fenywod sy’n famau, ac sy’n teimlo eu bod yn gallu dod â’u profiadau, eu safbwyntiau a’u chwilfrydedd i ystafell greadigol.

Mae hon yn broses gydweithredol. Bydd lle i gwestiynu, chwarae, arbrofi, myfyrio a rhannu, wrth i ni weithio gyda’n gilydd i ddarganfod beth allai’r darn hwn fod yn y pen draw.

 

Bydd eich llais, eich profiad a’ch safbwynt yn helpu i siapio’r gwaith o’r cychwyn cyntaf.

 

Rydym yn chwilio am 5 menyw. Rydym hefyd yn chwilio am cwpwl o siaradwyr Cymraeg, felly os ydych yn siarad Cymraeg yn rhugl neu os ydych yn ddysgwr, cysylltwch â ni. Mae angen i chi feddu ar lais canu da a’r gallu i actio drwy gân. Nid oes rhaid i chi fod yn gantorion sydd wedi cael hyfforddiant ffurfiol. Mae’r rolau hyn yn seiliedig yn bennaf ar berfformio fel actor, ond mae angen rhywfaint o allu cerddorol. 

 

Dyddiadau: 26–30 Hydref

Ffi: £600 

Location: YMa, Pontypridd

Dyddiad cau: 5 Hydref am 6pm

Anfonwch CV a llun at:

Ebost: leewayprods@gmail.com yn nodi Sirens R&D fel y pennawd.

Llun gan Becky Davies

Mewn partneriaeth â YMa, Pontypridd.

Gwnaed y rôl hon yn bosibl gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Diolch.

 

CY
Skip to content