Academi Leeway

NOD ACADEMI LEEWAY YW BOD YN LABORDY AR GYFER DATBLYGU SIOEAU CERDD NEWYDD YNG NGHYMRU

Play Video

Mae Academi Leeway yn academi hyfforddi theatr gerdd ddwyieithog ar lawr gwlad i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed yn ardaloedd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Pen-y-bont a Chastell-nedd Port Talbot, mewn partneriaeth gyda Theatr Soar a Theatr Genedlaethol Cymru ac yn fwyaf diweddar Valleys Kids.

 

Mae'r Academi hon yn darparu llwybrau clir a chynaliadwy i berfformwyr, artistiaid ac awduron/ cyfansoddwyr fel ei gilydd.

 

Trwy ddatguddio’r straeon cerddorol mae artistiaid o Gymru yn awyddus i’w hadrodd, a’r rheiny’n codi’n uniongyrchol o’r cymunedau lle maen nhw’n byw, byddwn yn rhoi llais i’r straeon sydd wrth galon ein cymunedau.

 

Mae'r Academi yn canolbwyntio’n unig ar ddeunydd theatr gerdd newydd sbon, ac mae pob aelod o’r cwmni yn datblygu’r sgiliau angenrheidiol i weithio gydag awduron a chyfansoddwyr newydd yn ogystal â derbyn hyfforddiant o safon uchel mewn sgiliau perfformio. Rydym o hyd yn chwilio am bobl ifanc sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau creadigol, sydd â diddordeb mewn creu neu berfformio theatr gerdd, ac sy’n fodlon gwthio’r ffiniau. Rydym yn croesawu cantorion, cerddorion, cyfansoddwyr, awduron, cynllunwyr, beirdd, beat boxers . . . artistiaid neu berfformwyr o bob math. Does dim angen profiad blaenorol – dim ond yr awydd angerddol i fod yn rhan o rywbeth newydd sy’n eiddo i chi.

 

Mewn partneriaeth â Soar,Theatr Genedlaethol Cymru a Valleys Kids, mae Leeway yn sicrhau bod hyfforddiant dan arweiniad y diwydiant ar gael i’r bobl ifanc, gan fod yn bont i lawer sydd efallai wedi teimlo eu bod wedi’u hallgáu yn y gorffennol.

Mae Cynyrchiadau Leeway yn gwmni sy’n hyderus o safbwynt amrywiaeth ac yn croesawu pawb sydd â diddordeb brwd mewn theatr gerdd gyda breichiau agored.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael clyweliad i ddod yn rhan o’r Academi, anfonwch neges ebost atom ni: leewayprods@gmail.com

 

Supported by Ashley Family Foundation, The Moondance Foundation and Arts Council of Wales

Aelodau presennol a gorffenol yr Academi

Prosiectau'r Academi

Corona Wars: cyfres o 3 sioe gerdd gwta gair-am-air yn trafod y safbwyntiau, yr hyn a gytunwyd ac na chytunwyd, y rhwystredigaethau a’r sylwadau a gasglwyd gan ein cwmni wrth iddyn nhw ymchwilio i adran sylwadau Wales Online mewn perthynas â thair araith allweddol a gyflwynwyd gan Boris Johnson, Mark Drakeford a Nicola Sturgeon yn ystod pandemig 2020/21.   Composed by Kizzy Crawford, James Williams and Lynwen Haf Roberts. Directors: Angharad Lee and Emma Hickey MD: David Laugharne Editor: Jonathan Dunn (Ffilmiwyd gan aelodau o’r Academi yn eu cartrefi)
CY
Skip to content