Y Rhodd/The Gift

A dyna ni – mae e mor syml ac mor hyfryd â hynna.

Mae ‘Y Rhodd’ yn fodd o ymateb yn greadigol i’r profiad o fyw drwy’r pandemig. Rydym yn gweithio gydag unigolion sydd wedi bod yn hunan-ynysu am gyfnod maith.

Rydym yn darparu cyfleoedd creadigol ac ymyriadau llesiant i helpu rhai sy’n ynysig ac yn unig, gan roi cyfle i anghofio popeth am ychydig amser er mwyn creu.

 

Rydym yn cyflwyno nifer fechan o unigolion i artistiaid lleol, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw weithio gyda’i gilydd mewn modd diogel. Ar ddiwedd y cyfnod, y rhodd yw darn o gelfyddyd a ysbrydolwyd gan yr unigolion ac a grëwyd yn benodol ar eu cyfer hwy i’w gadw.

 

A dyna ni – mae e mor syml ac mor hyfryd â hynna.

 

Ydych chi’n byw yn Rhondda Cynon Taf?

 

Ydych chi, neu oeddech chi, neu rywun rydych yn eu hadnabod, wedi bod yn hunan-ynysu am fisoedd lawer? Oeddech chi’n teimlo bod y profiad yn un llethol ar brydiau?

 

Cysylltwch â ni: os hoffech fod yn rhan o’r prosiect hwn, neu os dymunwch enwebu rhywun a fyddai’n hoffi cymryd rhan, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Ebostiwch leewayprods@gmail.com gan nodi Y RHODD/ THE GIFT yn y teitl.

CY
Skip to content