Opera Bites

OPERA, BWYD, AC AMBELL DRO YN Y GYNFFON!

Mewn partneriaeth â Bara Menyn, bydd eu bwydlen unigryw yn bodloni eich holl synhwyrau, rydym yn cyflwyno i chi beth o’r repertoire mwyaf cyfarwydd ym myd yr Opera, a hynny mewn modd agos-atoch a phersonol, yn ogystal ag ambell syrpréis ac elfennau annisgwyl.

 

Mae gennym 4 pecyn ar gael:

 

1. Y pecyn parti: os ydych yn trefnu parti ac yn awyddus i gael rhywbeth mwy cofiadwy, neu bod eich cwmni’n trefnu achlysur arbennig ac am gael noson llawn diwylliant, mae croeso i chi gysylltu i sgwrsio â ni ynghylch eich anghenion penodol. Gallwn hyd yn oed eich helpu i ddod o hyd i’r lleoliad delfrydol.

 

2. Y pecyn cymunedol: os hoffech i Opera Bites ymweld â lleoliad o fewn cymuned, cyn belled â bod gennych ryw fath o gegin, neu stafell arall lle gallem ddod â’n hoffer coginio, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

3. Y pecyn corfforaethol:  mae’r pecynnau hyn yn dechrau o £35 y pen. Cysylltwch am ragor o wybodaeth.

 

4. Y pecyn opera agos-atoch: oes pen blwydd arbennig ar y gorwel, a chithau am ddathlu mewn modd ysblennydd yn eich cartref eich hun? Bydd Opera Bites yn cynllunio noswaith sy’n unigryw i chi, wedi’i theilwra’n benodol i fodloni eich chwaeth o ran y gerddoriaeth a’r bwyd.

Byddwn ni’n darparu’r bwyd, a’r adloniant, a hwnnw wedi’i gyflwyno gan rai o’r lleisiau gorau yn y busnes. Gallwn goginio’r bwyd yn eich cegin eich hun wrth i chi a’ch gwesteion wrando ar beth o’r repertoire gorau un. Cysylltwch am sgwrs anffurfiol a gofynnwch am bris. Rydym yn cynnig prisiau sy’n dderbyniol i bawb.

 

Rydym yn cynnig prisiau sy’n addas i bawb. felly peidiwch â bod ag ofn gofyn.

CY
Skip to content