The Last Five Years

GAFELGAR O’R DECHRAU I’R DIWEDD...NEU A DDYLID DWEUD O’R DIWEDD I’R DECHRAU?

Play Video

Wedi’i ysgrifennu a’i gyfansoddi gan JASON ROBERT BROWN

Yn dilyn ei lwyddiant ar Broadway ac yn rhyngwladol, daeth ‘The Last Five Years’ i Gymru am y tro cyntaf un yn 2018. Roedd y cynhyrchiad arloesol hwn, a gyfarwyddwyd gan Angharad Lee, yn cyfuno sgôr bwerus o emosiynol gydag iaith arwyddion a symudiadau hyfryd gan y coreograffydd arobryn Mark Smith, sydd yn Fyddar. Mae’r sioe gerdd agos-atoch hon yn adrodd carwriaeth angerddol Cathy a Jamie, dau o Efrog Newydd, dros gyfnod o bum mlynedd, mewn stori deimladwy am ennill a cholli cariad. Yn ddoniol ac yn ingol bob yn ail, gydag alawon cofiadwy a thro cronolegol clyfar, mae ‘The Last Five Years’ yn hoelio eich sylw o’r dechrau i’r diwedd . . . neu a ddylai hynny fod o’r diwedd i’r dechrau?

Roedd pob perfformiad o ‘The Last Five Years’ yn hygyrch i aelodau’r gynulleidfa oedd yn F/fyddar neu a chanddynt nam ar eu clyw, gyda chapsiynau caeedig ac iaith arwyddion integredig fel bod modd i bawb ei fwynhau.

Teithiodd ‘The Last Five Years’ i’r mannau canlynol: Canolfan Mileniwm Cymru; Sefydliad Glowyr y Coed Duon; Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Theatr Soar, Merthyr; Galeri, Caernarfon a Ffwrnes, Llanelli yn ystod Tachwedd/Rhagfyr 2018.

Cyfarwyddwr: Angharad Lee

Coreograffi: Mark Smith

Cyfarwyddwr Cerdd: David Laugharne

Cynllun Goleuo: Jane Lalljee

Lighting Design: Jane Lalljee

Cynhyrchydd: Jennifer Lunn

CY
Skip to content