Bev Can Leave

DYFODOL A GRËIR O WALLGOFRWYDD RHITHWIR. TAITH RITHWIR THEATR GERDD RYNGWEITHIOL.

Born from our 10 Minute Musicals project, this is a new collaboration between Francois Pandolfo and Jason Phillips, directed by Angharad Lee and now with the divine compositions of Branwen Munn. Our creative associate Joanne Thomas takes on the role of Woman.

 

Mewn byd lle mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ddulliau o drosgynnu ein bodolaeth ein hunain, sut gallwn ni greu profiad theatraidd sydd o fenyw, ond ar gyfer pawb? Sut y gallwn ni ailfframio’r profiad o gemau cyfrifiadurol i estyn allan i’r menywod yn ein cymunedau, a’u hatgoffa eu bod i gyd yn rhyfeddol?

Bev Can Leave Mae The Room yn gysyniad newydd sbon – taith rithwir theatr gerdd ryngweithiol sy’n gosod cerddoriaeth a llais wrth galon naratif ffilm 360 VR.

Bydd y prosiect yn archwilio genre hybrid neu newydd o theatr gerdd o ran adrodd stori, perfformio a chynllun sain, gan ddefnyddio gemau cyfrifiadurol, sgriptio nad yw’n unionlin, a thechnegau a thechnoleg FMV (full motion video).

Mae’r prosiect yn meddu ar y gallu i gipio cynulleidfa sydd mewn cyflwr goddefol, diysgog, gan gau bwlch diymrwymiad a chreu cyflwr o ymgyfranogi bywiog, ynghyd â dewisiadau, ewyllys a chwilfrydedd.

Mae Angharad yn manylu: “Ambell dro, mae undonedd strwythurau yn teimlo’n annioddefol i ni, y bobl greadigol, gan ein gorfodi i fireinio syniadau i weddu i’r amgylchiadau. Dylai symudiad bob amser gael blaenoriaeth ar ffurf, ac mae’r prosiect hwn yn mynegi’r syniad yma’n berffaith i mi. Gadewch i’r symud osod y ffurf.”

 

Mewn partneriaeth gydag Yr Egin, gyda chymorth CCC.

The Room

DYFODOL A GRËIR O WALLGOFRWYDD RHITHWIR. TAITH RITHWIR THEATR GERDD RYNGWEITHIOL.

Wedi’i greu o ganlyniad i’n prosiect Sioeau Cerdd Cwta, mae hwn yn gydweithrediad newydd rhwng Francois Pandolfo a Jason Phillips, dan gyfarwyddyd Angharad Lee. Ein haelod cyswllt creadigol, Joanne Thomas, sy’n chwarae rhan Y Fenyw.

 

Mewn byd lle mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ddulliau o drosgynnu ein bodolaeth ein hunain, sut gallwn ni greu profiad theatraidd sydd o fenyw, ond ar gyfer pawb? Sut y gallwn ni ailfframio’r profiad o gemau cyfrifiadurol i estyn allan i’r menywod yn ein cymunedau, a’u hatgoffa eu bod i gyd yn rhyfeddol?

 

The Room Mae The Room yn gysyniad newydd sbon – taith rithwir theatr gerdd ryngweithiol sy’n gosod cerddoriaeth a llais wrth galon naratif ffilm 360 VR.

 

Bydd y prosiect yn archwilio genre hybrid neu newydd o theatr gerdd o ran adrodd stori, perfformio a chynllun sain, gan ddefnyddio gemau cyfrifiadurol, sgriptio nad yw’n unionlin, a thechnegau a thechnoleg FMV (full motion video).

Mae’r prosiect yn meddu ar y gallu i gipio cynulleidfa sydd mewn cyflwr goddefol, diysgog, gan gau bwlch diymrwymiad a chreu cyflwr o ymgyfranogi bywiog, ynghyd â dewisiadau, ewyllys a chwilfrydedd.

Mae Angharad yn manylu: “Ambell dro, mae undonedd strwythurau yn teimlo’n annioddefol i ni, y bobl greadigol, gan ein gorfodi i fireinio syniadau i weddu i’r amgylchiadau. Dylai symudiad bob amser gael blaenoriaeth ar ffurf, ac mae’r prosiect hwn yn mynegi’r syniad yma’n berffaith i mi. Gadewch i’r symud osod y ffurf.”

 

Mewn partneriaeth gydag Yr Egin, gyda chymorth CCC.

CY
Skip to content