Seiren sɪŋɡə

CYLCH O GANEUON YN ARCHWILIO’R HER O FOD YN FAM SENGL, DOSBARTH GWEITHIOL

Cylch o ganeuon sy'n archwilio heriau bod yn fam sengl dosbarth gweithiol. Mae'r darn newydd hwn o waith yn ffenestr i fywydau'r arwresau di-glod hynny sy'n cyd-dynnu â hi ddydd ar ôl dydd.

Wedi'i ddatblygu gan Angharad Lee, sydd ei hun wedi bod yn fam sengl ers blynyddoedd, bydd y darn hwn yn herio'r hyn rydyn ni'n meddwl rydyn ni'n ei wybod am fywydau beunyddiol y 'superhumans' hyn.

 

Mae Leeway yn falch iawn o gydweithio gyda'r canwr a'r offerynnwr, Lleuwen Steffan i ddatblygu'r darn hwn, ochr yn ochr â grŵp gwych o Famau sy'n cyfrannu at y prosiect.

 

Os ydych chi'n fam sengl ac hoffech gyfrannu, rhannu eich stori, cwrdd â mamau sengl eraill, cysylltwch â Leeway trwy anfon e-bost atom: leewayprods@gmail.com.

 

Gwnaed yn bosibl trwy gymorth Cyngor Celfyddydau Cymru.

 

CY
Skip to content