Galw i Ddiolch

YMWELIADAU DIOLCH YW YMATEB LEEWAY I’R YMGODYMU PARHAUS Â’R BRWYDRAU SY’N DOD YN SGIL PROFIAD CYFUNOL O BANDEMIG BYD-EANG.

Mae gennym ddiddordeb mewn gwybod am beth mae pobl yn ddiolchgar, pa mor fychan bynnag yw e. Roedd gennym ni ddiddordeb mewn rhoi amser i adlewyrchu ac i fod yn ddiolchgar am yr hunan yn ogystal ag am eraill.

Fel cwmni, rydym yn ddiolchgar bod pobl yn fodlon rhannu gyda ni a thaflu peth goleuni ar yr hyn sydd wedi eu helpu i wynebu’r sefyllfa hyd yn hyn.

 

Play Video

Cliciwch ar y botymau saeth isod i weld pob un o’n hymweliadau.

Darlunio gan Becky Davies

Yr Ymweliadau

“When we give cheerfully and accept gratefully, everyone is blessed.” ― Maya Angelou

Yn 2020 fe newidiodd y byd yn llwyr. Wrth i’r cyfyngiadau gael eu hymestyn, daeth yn amlwg yn fuan iawn na fyddai theatrau’n ailagor o fewn y dyfodol agos, a sylweddolwyd fod ein diwydiant yn wynebu argyfwng anferth – nid yn unig o safbwynt economaidd, ond hefyd yn nhermau iechyd meddwl gweithlu a oedd, dros nos fel petai, wedi eu hamddifadu o waith a chyfleoedd i fynegi eu creadigrwydd.

Thanks to financial support from National Theatre of Wales, Angharad and Associate Artist Becky Davies were able to pen a project specifically for actors during lockdown 2020. This project concentrated on well-being and a moment in time to empower oneself as a performer and a human trying to steer one’s way through the trickiest of times. Each project participant received a carefully curated box to start the project with, including:

1. Cardiau tasgau creadigol, wedi’u darlunio, i hybu llesiant. .

2. Tâp casét a cherdyn wedi’i ddarlunio, gyda rhestr chwarae a chod QR y tu mewn sy’n mynd â chi’n syth at restr chwarae YouTube. Roedd y rhestr – a guradwyd yn arbennig ar gyfer y prosiect hwn – yn cynnwys nifer o awduron Cymraeg yn esbonio pa gerddoriaeth sy’n eu helpu i ysgrifennu, a pham, ynghyd â’r traciau perthnasol.

 

3. Dail te rhydd ‘anxie’ sy’n gyfuniad o gamomeil, petalau rhosyn, lafant, blodau hibisgws, ferfaen lemonaidd a safflwr, wedi eu paratoi gan Cortile Coffee – cwmni annibynnol o Bontypridd – mewn bagiau te cotwm y gellir eu hailddefnyddio, gyda labeli a ysgrifennwyd â llaw yn dyfynnu geiriau Maxime Legacé: “Go inside where silence is. Stay there. Let words bubble up.”

4. Canhwyllau gwêr i selio llythyrau, wedi’u gwneud â llaw ac yn cynnwys olew naws thus.

5. Cwilsyn ysgrifennu wedi’i wneud o bluen gwydd, gyda nib a gerfiwyd â llaw ac inc arlunio.

6. Deunyddiau i lunio collage, a ffyn glud

7. Cardiau post gwag ac amlenni wedi eu cyfeirio a’u stampio.

Roedd y rhai a gymerodd ran hefyd wedi derbyn cefnogaeth mewn gweithdai creadigol yn ffocysu ar lesiant a drefnwyd yn sgil y prosiect, gan ganolbwyntio ar gydnabod gwerthoedd, diddordebau a sgiliau, ac ystyried pethau newydd a gwahanol i deimlo’n bositif ac angerddol amdanynt. Roedd y tasgau’n cynnwys ysgrifennu creadigol (e.e. llythyrau, cerddi cuddio geiriau, maniffesto), collage, darlunio a chreu mapiau.

Ar hyn o bryd, rydym yn ymgysylltu ag unigolion sydd wedi dioddef profedigaeth yn ystod y pandemig ac sydd, efallai, ymhlith yr holl rai sydd wedi, neu sydd yn, gorfod delio â’u galar ar eu pennau eu hunain. Gan weithio gydag artist a cherddor, gyda help llaw gennym ni, mae’r prosiect hwn yn helpu’r atgofion rhaeadrol sydd gennych chi, yr atgofion a’r meddyliau a’r teimladau hynny all weithiau fod yn llethol, i wreiddio a thrawsnewid yn ddarn o gelf a fydd yn eiddo i chi i’w gadw am byth fel rhodd weledol a cherddorol werthfawr i’ch atgoffa o berson oedd yn annwyl i chi. Mae’r prosiect tyner hwn yn cynnig mewnwelediad i ryfeddod eich atgofion am eich anwylyd, ac yn adlewyrchu cymhlethdod eich emosiynau oherwydd, weithiau, dyw geiriau ddim yn ddigon. Os gwyddoch am rywun fyddai’n hoffi cymryd rhan yn y prosiect hwn, neu os ydych chi eich hun wedi colli rhywun yn ystod y pandemig, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy leewayprods@gmail.com gan nodi ‘Galw i ddiolch/ Gratitude Visit’ yn y teitl. Rydym yn meddwl yn annwyl am bawb sydd wedi dioddef colled ac sy’n galaru yn y cyfnod hwn.
Fideo yn dod yn fuan

Grŵp Ysgrifennu RhCT

‘A Symphony of Gratitude’ yn ffrwyth gwaith a wnaed gyda Grŵp Ysgrifennu RhCT yn seiliedig ar yr her ‘Am beth rydych chi’n ddiolchgar?' Yn gyfeiliant i eiriau’r grŵp ysgrifennu mae cerddoriaeth o waith y cyfansoddwr Christopher Young, a gwaith celf gan Siôn Tomos Owen yn ‘A Symphony of Gratitude’.

CY
Skip to content