10Pod

MAE LEEWAY 10POD YN GYFRES O BODLEDIADAU SY’N FFOCYSU AR FAES Y THEATR GERDD YNG NGHYMRU – EI GORFFENNOL, EI PHRESENNOL A’I DYFODOL

Mae’r Gyfres Gyntaf yn cynnwys wyth pennod o gyfweliadau ag awduron, cyfansoddwyr a pherfformwyr sydd wedi cymryd rhan yn ein prosiectau Sioeau Cerdd Cwta

Mae pob pennod yn cynnwys sgyrsiau rhwng Angharad Lee, cyfarwyddwr artistig Cynyrchiadau Leeway, a Luke Hereford, artist cyswllt, ynghyd â thîm o awduron-gyfansoddwyr a pherfformwyr sydd wedi cymryd rhan yn y Sioeau Cerdd Cwta ers dechreuad y prosiect yn 2016.

Yn ein hail gyfres bydd Luke, Angharad a gwesteion arbennig yn sgwrsio â gweithwyr proffesiynol ym maes Theatr Gerdd o bob rhan o Gymru am ein tirlun Theatr Gerdd ni ein hunain, am rai o’r cynyrchiadau mwyaf cyffrous i ddod o Gymru yn y blynyddoedd diwethaf a beth, efallai, fydd gan y dyfodol i’w gynnig.

Sut i wrando:

Mae sawl ffordd o wrando – mae rhestr gyflawn o’r gyfres i’w gweld ar yr ochr dde.

  1. Chwiliwch am Leeway 10 Pod ar eich gwasanaeth ffrydio arferol, neu . . .
  2. Ewch i amam.cymru 
  3. Ewch i Tudalen Anchor
  4. Ewch i Tudalen Spotify
  5. Gwyliwch y podlediad gweladwy gyda chapsiynau ar ein sianel YouTube.
CY
Skip to content