Mae Cynyrchiadau Leeway wedi ymrwymo i ysbrydoli creadigrwydd a chwilfrydedd, gan weithio ym maes theatr gerdd yn unig

A ninnau wedi’n lleoli yn y Porth, yng nghymoedd prydferth de Cymru, rydym yn awyddus i weld diwylliant fel sylfaen i’n cymunedau ffyniannus. Rydym yn gweithredu dan arweiniad artistiaid i herio ffurfiau traddodiadol y theatr gerdd, gan ysbrydoli pobl greadigol i gydweithio ar syniadau ffres fydd yn rhoi llais i’r straeon sydd wrth galon ein cymunedau. Fel cwmni, rydym yn hyderus ym maes amrywiaeth ac yn gosod hygyrchedd wrth galon artistig ein cynyrchiadau, tra ar yr un pryd yn anelu’n gyson at ragoriaeth artistig a rhoi cyfle i ysbryd ein cymunedau ganu. Roedd ein cynhyrchiad arloesol a blaengar, ‘The Last 5 Years’, yn torri tir newydd o ran cynwysoldeb yn y theatr gerdd, gan osod pobl greadigol a chynulleidfaoedd Byddar wrth galon y cynhyrchiad. Fel cwmni, rydym yn hyderus ym maes amrywiaeth ac yn gosod hygyrchedd wrth galon artistig ein cynyrchiadau, tra ar yr un pryd yn anelu’n gyson at ragoriaeth artistig a rhoi cyfle i ysbryd ein cymunedau ganu. Roedd ein cynhyrchiad arloesol a blaengar, ‘The Last 5 Years’, yn torri tir newydd o ran cynwysoldeb yn y theatr gerdd, gan osod pobl greadigol a chynulleidfaoedd Byddar wrth galon y cynhyrchiad.
Darllenwch ragor amdano yma

Cylchlythyr




Leeway 10Pod

MAE LEEWAY 10POD YN GYFRES O BODLEDIADAU SY’N FFOCYSU AR FAES Y THEATR GERDD YNG NGHYMRU – EI ORFFENNOL, EI BRESENNOL A’I DDYFODOL

 

Cyfres 1 features conversations between Angharad Lee, artistic director of Leeway Productions, Luke Hereford, associate artist, alongside a writer-composer team and performers who have taken part in 10mm since its inception in 2016.

Cyfres 2 Ar Gael Nawr! In our second series Luke, Angharad and special guest presenters chat with Musical Theatre Professionals from across Wales about our homegrown Musical Theatre landscape, some of the most exciting productions to come out of Wales in recent years, and what the future might have in store.

Sut i wrando:

  1. Chwiliwch am Leeway 10 Pod ar eich gwasanaeth ffrydio arferol, neu . . .
  2. Ewch i amam.cymru 
  3. Ewch i Tudalen Anchor
  4. Ewch i Tudalen Spotify
  5. Gwyliwch y podlediad gweladwy gyda chapsiynau ar ein sianel YouTube.

Leeway 10Pod

MAE LEEWAY 10POD YN GYFRES O BODLEDIADAU SY’N FFOCYSU AR FAES Y THEATR GERDD YNG NGHYMRU – EI ORFFENNOL, EI BRESENNOL A’I DDYFODOL

 

Mae’r Gyfres Gyntaf yn cynnwys wyth pennod sy’n cyfweld awduron, cyfansoddwyr a pherfformwyr sydd wedi cymryd rhan yn ein prosiectau Sioeau Cerdd Cwta. Mae pob pennod yn cynnwys sgyrsiau rhwng Angharad Lee, cyfarwyddwr artistig Cynyrchiadau Leeway, a Luke Hereford, artist cyswllt, ynghyd â thîm o awduron-gyfansoddwyr a pherfformwyr sydd wedi cymryd rhan yn y Sioeau Cerdd Cwta ers dechreuad y prosiect yn 2016.

Bydd Cyfres 2 yn dod yn fuan! Yn ein hail gyfres bydd Luke, Angharad a gwesteion arbennig yn sgwrsio â gweithwyr proffesiynol ym maes Theatr Gerdd o bob rhan o Gymru am ein tirlun Theatr Gerdd ni ein hunain, am rai o’r cynyrchiadau mwyaf cyffrous i ddod o Gymru yn y blynyddoedd diwethaf a beth, efallai, fydd gan y dyfodol i’w gynnig.

 

Sut i wrando:

  1. Chwiliwch am Leeway 10 Pod ar eich gwasanaeth ffrydio arferol, neu . . .
  2. Ewch i amam.cymru 
  3. Ewch i Tudalen Anchor
  4. Ewch i Tudalen Spotify
  5. Gwyliwch y podlediad gweladwy gyda chapsiynau ar ein sianel YouTube.
CY
Skip to content