(10 Minute Musicals)

Mae Sioeau Cerdd Cwta yn rhaglen ddatblygu arloesol i helpu ysgrifenwyr, cyfansoddwyr a cherddorion o bob genre yng Nghymru ac yn rhyngwladol sy’n awyddus i greu theatr gerdd.

Play Video

Daeth y prosiect i fodolaeth yn 2016 yn sgil y bwlch anferth mewn darpariaeth ar gyfer y rheiny sy’n awyddus i’w huwch-sgilio eu hunain wrth ystyried ysgrifennu ar gyfer sioeau cerdd neu theatr gerdd yng Nghymru.

 

Mae’r Sioeau Cerdd Cwta o werth mawr i ni fel cwmni wrth i ni geisio annog a meithrin pobl greadigol – enwau newydd a rhai sydd eisoes yn y maes – i ysgrifennu ar gyfer y theatr gerdd yng Nghymru. Mae cydweithio rhyngwladol rhwng artistiaid hefyd o bwys mawr i ni er mwyn agor trafodaethau rhwng gwahanol ddiwylliannau ac ieithoedd. Rydym yn annog sgwrs barhaus gyda phobl greadigol, a chredwn fod y prosiect datblygu creadigol hwn yn ffordd wych o daflu goleuni newydd ar sut mae artistiaid fel arfer yn gweithio. Rydym yn creu’r cae chwarae perffaith i feithrin chwilfrydedd a chreadigrwydd – man lle gall artistiaid, na fydden nhw fel arfer yn cydweithio, yn cael eu galluogi a’u hysbrydoli i chwalu’r rhwystrau a’r ffiniau er mwyn creu theatr gerdd a rhoi llais i’r straeon a’r diwylliannau maen nhw’n awyddus i’w rhannu

Gall ymgyfranogwyr creadigol gynnwys cyfansoddwyr, dramodwyr, llunwyr librettos, beirdd, cerddorion, beat-boxers, rapwyr, awduron geiriau caneuon . . .

Mae’r prosiect Sioeau Cerdd Cwta yn cynnwys rhyngweithio, datblygu ymarfer cyfredol ac archwilio a darparu’r gefnogaeth mae ar artistiaid ei hangen wrth iddynt esblygu eu sgiliau ysgrifennu ar gyfer y genre hwn, ei ddatblygu a’i symud ymlaen. Rydym yn annog sgwrs barhaus gyda phobl greadigol, ac yn credu bod y prosiect datblygu creadigol hwn yn cynnig cyfle gwych i gamu mlaen tuag at daflu goleuni newydd ar eich dull arferol o weithio.

Prosiectau

Cefnogwyd ein prosiect peilot gan Theatr Genedlaethol Cymru, Theatrau RhCT, Sefydliad Glowyr y Coed Duon, Regan Management, The Talent Shack, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, The Stage Centre, Theatr Sherman, The Centre, a The Other Room. Mwy o fanylion...

Leeway yn The Other Room Prosiect 2

Rhoddodd ein hail brosiect hyfryd enedigaeth i bartneriaethau newydd, gwych, sy’n parhau i weithio gyda’i gilydd hyd heddiw. Pump o gydweithrediadau newydd a thŷ gorlawn yn The Other Room.

Leeway yn The Other Room Prosiect Cymraeg

Mewn partneriaeth gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, daethom â chyfansoddwyr ac awduron Cymraeg at ei gilydd i greu 4 darn cydweithredol newydd.

Leeway yn y Canolfan, mewn partneriaeth gyda PCDDS

Mewn partneriaeth gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, daethom â chyfansoddwyr ac awduron Cymraeg at ei gilydd i greu 4 darn cydweithredol newydd.

Leeway yn Queen's Theatre, Hornchurch

Mentrodd Leeway i Lundain i gydweithio gyda Theatr y Queen’s, Hornchurch, gan gefnogi dau artist lleol a rhannu ein gwaith Cymreig yn y theatr hyfryd hon.

Leeway yn y Ffwrnes

Leeway yn Theatr Ffwrnes oedd ein prosiect gyntaf i edrych ar gefnogi artistiaid pan-Gymru. Crëwyd pump o gydweithrediadau newydd cryf, ac mae rhai ohonynt bellach yn y cam datblygu.
Play Video

Rydym wedi dangos ein gwaith yn The Other Room, Caerdydd; Pontio, Bangor; Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Taliesin, Abertawe fel rhan o Wobrau Theatr Cymru; Ffwrnes, Llanelli; Theatr y Queen’s, Hornchurch, a gŵyl Focus Wales 2018 yn Wrecsam, i enwi dim ond rhai. Cliciwch ar y dolennau isod i wybod rhagor.

 

Cafodd nifer o’n Sioeau Cerdd Cwta eu dangos yn nhymor cyntaf ein Podlediadau, Leeway 10 Pod, gyda fideos o’r prosiectau ar gael ar ein sianel YouTube . Cafodd y caneuon hyn, a ffilmiwyd gan yr unigolion, eu perfformio gan raddedigion Cwrs MA Theatr Gerdd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn ystod cyfnod clo cyntaf 2020.

Nodyn gan Angharad Lee

“Rydyn ni’n awyddus i greu a rhannu straeon twymgalon sy’n cyffwrdd â chalonnau ein cymunedau. Rydyn ni’n creu teulu theatr gerdd i estyn allan i’r cymunedau hynny sydd, efallai, yn teimlo nad yw’r genre yma’n addas iddyn nhw, nac yn ymwneud â nhw. Mae Cymru’n cael ei hadnabod fel Gwlad y Gân, ond does gennym ni ddim traddodiad cryf o greu ein theatr gerdd ein hunain – rydym yn barod iawn i fewnforio straeon o Lundain neu Broadway, mynd i’w gweld yn ein theatrau, eu perfformio yn ein cymunedau ac mewn grwpiau drama amatur – ond oni fyddai’n hollol wych petaen ni’n rhoi ein straeon theatr gerdd ni ein hunain ar y llwyfan ac, ymhen amser, yn eu rhannu gyda gweddill y byd? A bydd pobl yn Efrog Newydd yn mynd i weld theatr gerdd o Gymru ar Broadway. Pam lai?”

With thanks to funding from PRS Foundation, Leeway ran a new 10 Minute Musicals project in Rhondda Cynon Taf, Winter 2021/22 . Check out the brilliant work below:

CY
Skip to content