Chwilio am berfformwyr
Mae Cynyrchiadau Leeway yn chwilio berfformwyr sy'n fenywod
Mae Cynyrchiadau Leeway yn datblygu darn newydd o theatr sydd wedi’i eni o sgyrsiau y mae’r cyfarwyddwr Angharad Lee wedi’u cael gyda mamau sengl anhygoel.
Bydd y darn yn ddarn gain am airgan ddod â lleisiau a phrofiadau go iawn i ganol y gwaith, gyda sgôr gerddorol wreiddiol gan y cyfansoddwr a’r cerddor Lleuwen Steffan.
Mae Leeway yn chwilio am grŵp o fenywod i gyfrannu at y broses Ymchwil a Datblygu (Y&D) wrth i Angharad a Lleuwen ddechrau siapio ac archwilio tirwedd theatrig y darn.
Gyda’i gilydd, bydd y grŵp yn ein helpu i:
- Archwilio sut y gall y sgôr, y sgript a’r cyfweliadau gwreiddiol ddod at eu gilydd ar y llwyfan.
- Ymchwilio’n feirniadol i’r themâu, y syniadau a’r profiadau sydd wrth wraidd y gwaith.
- Arbrofi a herio elfennau o’r sgript, gan helpu i lywio ei datblygiad.
- Archwilio gwahanol ddulliau theatrig o adrodd y straeon hyn.
- Arbrofi gyda cherddoriaeth, llais, testun a pherfformio.
- Rhannu eich safbwyntiau, eich ymatebion a’ch greddfau eich hun er mwyn ein helpu i ddeall beth sy’n taro tant — a beth sydd ddim.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan fenywod sy’n famau, ac sy’n teimlo eu bod yn gallu dod â’u profiadau, eu safbwyntiau a’u chwilfrydedd i ystafell greadigol.
Mae hon yn broses gydweithredol. Bydd lle i gwestiynu, chwarae, arbrofi, myfyrio a rhannu, wrth i ni weithio gyda’n gilydd i ddarganfod beth allai’r darn hwn fod yn y pen draw.
Bydd eich llais, eich profiad a’ch safbwynt yn helpu i siapio’r gwaith o’r cychwyn cyntaf.
Rydym yn chwilio am 5 menyw. Rydym hefyd yn chwilio am cwpwl o siaradwyr Cymraeg, felly os ydych yn siarad Cymraeg yn rhugl neu os ydych yn ddysgwr, cysylltwch â ni. Mae angen i chi feddu ar lais canu da a’r gallu i actio drwy gân. Nid oes rhaid i chi fod yn gantorion sydd wedi cael hyfforddiant ffurfiol. Mae’r rolau hyn yn seiliedig yn bennaf ar berfformio fel actor, ond mae angen rhywfaint o allu cerddorol.
Dyddiadau: 26–30 Hydref
Ffi: £600
Location: YMa, Pontypridd
Dyddiad cau: 5 Hydref am 6pm
Anfonwch CV a llun at:
Ebost: leewayprods@gmail.com yn nodi Sirens R&D fel y pennawd.
Mewn partneriaeth â YMa, Pontypridd.
Gwnaed y rôl hon yn bosibl gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Diolch.