ONCE UPON A LOAD OF CRAP.

Cynhyrchiad newydd sy'n archwilio’r her o fod yn fam sengl, dosbarth gweithiol

Theatr sy'n archwilio’r her o fod yn fam sengl, dosbarth gweithiol, mae’r darn newydd hwn o waith yn rhoi ffenest i ni ar fywydau’r arwresau di-glod hynny sy’n ymdopi o ddydd i ddydd heb gwyno.

Wedi'i ddatblygu gan Angharad Lee sydd ei hun wedi bod yn fam sengl ers blynyddoedd, bydd y darn hwn yn herio'r hyn rydyn ni'n meddwl rydyn ni'n ei wybod am fywydau beunyddiol y 'superhumans' hyn.


“ I’ll tell you a definition of being a single parent…complicated living because when you split from the parents of your child and then you introduce other people into the mix, a whole gang  of people who pull in opposite directions….Oh it’s just complicated sometimes isn’t it?”


Mae Leeway yn falch iawn o gydweithio gyda'r canwr a'r offerynnwr, Lleuwen Steffan i ddatblygu'r darn hwn, ochr yn ochr â grŵp gwych o Famau sy'n cyfrannu at y prosiect.


Os ydych chi'n fam sengl ac hoffech gyfrannu, rhannu eich stori, cwrdd â mamau sengl eraill, cysylltwch â Leeway trwy anfon e-bost atom: leewayprods@gmail.com.


Gwnaed yn bosibl trwy gymorth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mewn partneriaeth a YMa, Pontypridd, wedi cefnogi gan Ar Ben y Byd, Tonyrefail.

Llun gan Becky Davies

Tîm Creadigol

Isod mae rhai delweddau o’r gweithdai a gynhaliwyd gan y tîm creadigol yn Ar Ben y Byd, Tonyrefail.

Edrychwch isod ar rai o’r gwaith hyfryd y mae’r Mamau gwych hyn wedi’i greu.

CY
Skip to content