SUT GALLWN NI DDYSGU HANES CYMRU MEWN FFORDD SY’N HWYLIOG AC WEDI’I WREIDDIO? TRWY GREU SIOEAU CERDD CWTA, WRTH GWRS!
Prosiect ymestyn allan yw’r Sioeau Cerdd Cwta wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer dysgwyr yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3 a 4.
Mae’r prosiect yn rhoi ffocws arbennig ar alluogi dull o weithio traws-gwricwlaidd ar y fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, cerddoriaeth a’r fframwaith cynhwysedd digidol, yn ogystal ag ymrwymiad i archwilio’r gwirioneddau am Gymru – yr elfennau cyfoethog sydd weithiau’n anghysurus.
Bydd Cynyrchiadau Leeway yn uwchsgilio athrawon yn ogystal â dysgwyr, ac yn galluogi iaith y gellir ei rhannu i feithrin creadigrwydd pawb yn yr ystafell ddosbarth a chodi straeon hanesyddol i’w rhoi mewn cyd-destun.
Gwyliwch eich disgyblion yn creu eu Sioeau Cerdd Cwta eu hunain, sy’n dod o’u syniadau a’u dychymyg nhw, ond sy’n cynnig templad clir a diogel iddyn nhw ei ddilyn.
Byddwn yn annog dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau cyfansoddi caneuon mewn awyrgylch diogel a hwyliog, gan ar yr un pryd eu cefnogi gyda fframwaith glir o weithgareddau sy’n addas i bawb.
Mae’r prosiect yn addas ar gyfer pob dysgwr, yn enwedig disgyblion MAT a dysgwyr EAL, ac mae’n cefnogi strategaethau’r Dyfodol Llwyddiannus.
I drafod dod â Sioeau Cerdd Cwta i’ch ysgol chi, cysylltwch ag Angharad ar leewayprods@gmail.com. Gellir darparu’r prosiect hwn mewn person neu’n rhithwir, neu gyfuniad o’r ddau.
‘Thank you for helping, encouraging and teaching us so much about music’
Bu Sam yr 6
‘Thank you Angharad, I have had loads of fun’
Katie yr 5
‘Thank you Angharad, really enjoyed and learned a lot myself’ Mrs Battenbough
‘Great project, thanks’
Miss Rodgers