FI YW FI AR BEN FY HUN NAWR.

 

Cynhyrchiad newydd sy'n archwilio’r her o fod yn fam sengl, dosbarth gweithiol

Theatr sy'n archwilio’r her o fod yn fam sengl, dosbarth gweithiol, mae’r darn newydd hwn o waith yn rhoi ffenest i ni ar fywydau’r arwresau di-glod hynny sy’n ymdopi o ddydd i ddydd heb gwyno.

 

Wedi'i ddatblygu gan Angharad Lee sydd ei hun wedi bod yn fam sengl ers blynyddoedd, bydd y darn hwn yn herio'r hyn rydyn ni'n meddwl rydyn ni'n ei wybod am fywydau beunyddiol y 'superhumans' hyn.

 

"Wedai wrthoch chi ddiffiniad o fod yn rhiant sengl... byw yn gymhleth oherwydd pan ti’n gwahanu oddi wrth rieni dy blentyn a wedyn yn cyflwyno pobl eraill i' mewn i’r mix, criw cyfan o bobl sy'n tynnu i gyfeiriadau gwahanol....O MY GOD…. mae'n gymhleth weithiau, ondyw e?”

 

Mae Leeway yn falch iawn o gydweithio gyda'r canwr a'r offerynnwr, Lleuwen Steffan i ddatblygu'r darn hwn, ochr yn ochr â grŵp gwych o Famau sy'n cyfrannu at y prosiect.

 

Os ydych chi'n fam sengl ac hoffech gyfrannu, rhannu eich stori, cwrdd â mamau sengl eraill, cysylltwch â Leeway trwy anfon e-bost atom: leewayprods@gmail.com.

 

Gwnaed yn bosibl trwy gymorth Cyngor Celfyddydau Cymru.

 

Cefnogwyd gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Ar Ben y Byd.

Llun gan Becky Davies

Tîm Creadigol

Sgyrsiau nesaf a gweithdai gyda Mamau sengl:

Lleoliad:  Ar Ben y Byd Cafe, Tonyrefail

 

Dyddiadau:

- 1 Mai
- 8 Mai
- 15 Mai
 
Amser: 6pm-8.30pm
 
Dewch i ddweud helo.
CY
Skip to content