GALWAD ACADEMI LEEWAY- 'Join the Dots'

Mae Cynyrchiadau Leeway, mewn partneriaeth â Valleys Kids,yn lansio 3ydd prosiect Academi Leeway, academi theatr gerddorol ar lawr gwlad i bobl ifanc 14–25 oed – ac rydym yn awyddus i glywed gennych chi.

Yn galw pobl ifanc Rhondda Cynon Taf.

 

Hoffi sioeau cerdd? Eisiau canu caneuon newydd sydd wedi eu sgwennu dim ond i chi? Eisiau perfformio mewn sioeau cerdd rydych chi wedi’u creu eich hun?

 

Dyma gyfle gwych unwaith eto i greu eich sioeau cerdd bach newydd eich hun, a’u perfformio nhw’n fyw yn Y Factori, Porth a Theatr Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024

 

Mae Cynyrchiadau Leeway, , mewn partneriaeth â Valleys Kids yn lasio Academi Leeway, academi theatr gerddorol ar lawr gwlad i bobl ifanc 14–25 oed – ac rydym yn awyddus i glywed gennych chi.

 

Cymaint oedd llwyddiant ein prosiectau cyntaf, rydym nawr wrth ein bodd fod Cyngor Celfyddydau Cymru yn ein cefnogi ar gyfer y rhaglen hon o waith newydd.

 

Rydym yn chwilio am bobl ifanc sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau creadigol, sydd â diddordeb mewn creu neu berfformio theatr gerddorol, ac sy’n barod i wthio’r ffiniau. Rydym yn croesawu cantorion, cerddorion, cyfansoddwyr, awduron, dylunwyr, beirdd, bocswyr cur (beatboxers), artistiaid neu berfformwyr o unrhyw fath. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch – dim ond angerdd am fod yn rhan o rywbeth newydd sy’n perthyn i chi.

 

Mwy o wybodaeth am yr Academi yma: 

https://leewayproductions.com/cy/academi/

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Academi Leeway, cysylltwch â Angharad Lee on: leewayprods@gmail.com

Prosiect 3

 

Bydd ein 3ydd prosiect, ‘Join the Dots’yn eich gweld yn gweithio gydag awduron a chyfansoddwyr proffesiynol ac yn creu a pherfformio’n fyw mewn sioeau gerdd fach newydd sbon, a’r cyfan yn seiliedig ar straeon rydych chi am eu hadrodd. Ynghyd â chyfarwyddwr, byddwch yn creu gwaith i’w berfformio yn Y factori, Porth 2023 ac Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

 

Rydym yn chwilio am bobl ifanc 14–25 oed i fod yn rhan o’r prosiect

 

Mae hwn yn gyfle dwyieithog, ac rydym yn annog y rhai ohonoch nad ydych yn siaradwyr Cymraeg rhugl, ond sy’n awyddus i weithio mwy yn y Gymraeg, i wneud cais ac ymuno gyda ni.

Byddwn yn eich cefnogi ar hyd y daith.

 

Lleoliad: Y Factori, Porth

Dyddiau: Nosweithiau Mawrth

Amser:: 6-8pm

Dyddiadau: Ebrill 25- 27 Mehefin 2023

 

Cam 1: Gwneud Cais

Os ydych rhwng 14 a 25 oed ac yn dod o un o’r ardaloedd uchod, mae croeso mawr i chi ymuno. Rydym yn agored i unrhyw un sydd ag awydd i greu a gweithio gyda deunydd theatr gerdd newydd. Mae Leeway yn gwmni sy’n hyderus o ran amrywiaeth, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi unrhyw anghenion mynediad sydd gennych.

Ddiddordeb? Llenwch y ffurflen isod:

 

https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSczF7bEsmacTVK-jSOPokG0HLwsOdTgnAYQFXaGqJvtGuR7cw/viewform

 

Dydddiad Cau: Ymunwch unrhywvryd

 

Cam 2: Troi i fyny

Mae’r tîm yn edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â phob un ohonoch chi a chael amser gwych yn creu a gwneud theatr eto. Mewn person!!

TIWTORIAID ACADEMI LEEWAY, PORTH

CY
Skip to content