Shelf Life
GELLIR COLLI AC ENNILL CARIAD YN UNRHYW EIL. YDY, MAE POPETH YN HELP, PA MOR FYCHAN BYNNAG YDY E.
Wedi’i hysgrifennu gan yr artistiaid disglair o Gymru, Llinos Mai, Dean Yhennell a Kizzy Crawford, dechreuodd ‘Shelf Life’ yn wreiddiol fel rhan o’n partneriaeth Sioeau Cerdd Cwta gyda The Other Room yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd mae ‘Shelf Life’ yn cael ei ddatblygu’n gyfres o sioeau cerdd opera sebon byr.
Mae ‘Shelf Life’ yn rhoi mewnwelediad direidus i fyd un o’n gweithwyr rheng-flaen, ac yn ein hatgoffa’n gynnes y gellir colli ac ennill cariad yn unrhyw eil.
Play Video