CHWILIO AM GANTORION AR GYFER SIOEAU CERDD CWTA
CHWILIO AM GANTORION I RECORDIO SIOEAU CERDD CWTA NEWYDD, CHWEFROR 28, 2022
Rydym yn anog ceisiadau gan unigolion cwiar, trawsryweddol, unigolion nad ydynt yn deuaidd neu anghydffurfwyr rhyw.
Mae'r prosiect yn cefnogi cerddorion/ gwneuthurwyr professiynol LHDTQ+. Darllenwch fwy am y brosiect isod:
https://prsfoundation.com/grantees/leeway-productions-the-open-fund-for-organisations/
Rydym yn chwilio am saith canwr i gymryd rhan ym Mhrosiect Sioeau Cerdd Cwta 2022 (10 Minute Musicals) Cynyrchiadau Leeway mewn partneriaeth â Theatrau RhCT a'u cefnogir gan PRS Foundation.
Dewch i ganu gwaith newydd sbon gan gyfansoddwyr anhygoel yn y Parc a'r Dar, Treorci!
Rydym yn chwilio am...
- 2 SOPRANO – Dan 30 oed, sy'n gallu canu roc/pop
- 2 ALTOS – 20iau, sy'n gallu cyraedd G3
- 1 TENOR – 20iau sy'n gallu cyrraedd hyd at A4
- 1 MEZZO-SOPRANO
- 1 BARITONE
Pryd? Bydd angen i chi fod ar gael trwy'r dydd ar Chwefror 28 , 2022.
Ffi: £150
Byddwch yn derbyn cerddoriaeth cyn y diwrnod ond ni fydd disgwyl i chi ddysgu unrhyw beth oddi ar gopi.
Byddai'n gret petai chi'n gallu darllen cerddoriaeth, ond ddim yn angenrheidiol.
Croeso i bob rhyw gysylltu – rydym yn dewis/castio drwy leisiau ac nid drwy ryw.
Sut: Danfonwch fideo byr o'ch hun yn canu i leewayprods@gmail.com heddiw!
Dyddiad cau: Chwefror 14
Danfonwch fideo sydd gennych yn barod. Sdim angen creu fideo o'r newydd os nad oes rhaid.