CHWILIO AM GANTORION AR GYFER SIOEAU CERDD CWTA

CHWILIO AM GANTORION I RECORDIO SIOEAU CERDD CWTA NEWYDD, CHWEFROR 28, 2022

Rydym yn anog ceisiadau gan unigolion cwiar, trawsryweddol, unigolion nad ydynt yn deuaidd neu anghydffurfwyr rhyw.

 

Mae'r prosiect yn cefnogi cerddorion/ gwneuthurwyr professiynol LHDTQ+. Darllenwch fwy am y brosiect isod:

 

https://prsfoundation.com/grantees/leeway-productions-the-open-fund-for-organisations/

 

Rydym yn chwilio am saith canwr i gymryd rhan ym Mhrosiect Sioeau Cerdd Cwta 2022 (10 Minute Musicals) Cynyrchiadau Leeway mewn partneriaeth â Theatrau RhCT a'u cefnogir gan PRS Foundation.

Dewch i ganu gwaith newydd sbon gan gyfansoddwyr anhygoel yn y Parc a'r Dar, Treorci!

 

 Rydym yn chwilio am...

  • 2 SOPRANO – Dan 30 oed, sy'n gallu canu roc/pop
  • 2 ALTOS – 20iau, sy'n gallu cyraedd G3
  • 1 TENOR – 20iau sy'n gallu cyrraedd hyd at A4
  • 1 MEZZO-SOPRANO
  • 1 BARITONE

Pryd? Bydd angen i chi fod ar gael trwy'r dydd ar Chwefror 28 , 2022.

 

Ffi: £150

 

Byddwch yn derbyn cerddoriaeth cyn y diwrnod ond ni fydd disgwyl i chi ddysgu unrhyw beth oddi ar gopi.

Byddai'n gret petai chi'n gallu darllen cerddoriaeth, ond ddim yn angenrheidiol.

Croeso i bob rhyw gysylltu – rydym yn dewis/castio drwy leisiau ac nid drwy ryw.

 

Sut:  Danfonwch fideo byr o'ch hun yn canu i leewayprods@gmail.com heddiw! 

 

Dyddiad cau: Chwefror 14 

Danfonwch fideo sydd gennych yn barod. Sdim angen creu fideo o'r newydd os nad oes rhaid. 

Cyfansoddwyr:

Chris Fossey,

Emmy Stonelake,

Kai Fish,

Nathan Jones,

Máth Roberts

CY
Skip to content