DEWCH I GWRDD Â’R BRENIN SLIME, GWEN GWYBODUS A BOBBY, Y BLOB SY’N BOWNSIO. RYDYM YN FALCH IAWN O’R SGWIGLS!
Ambell dro, caiff pethau gwych eu geni o adfyd. Yn ystod cyfnod y Coronafirws, nid oedd modd cynnal y prosiectau Sioeau Cerdd Cwta a drefnwyd yn Galeri, Caernarfon, a Theatr y Parc a’r Dâr, Treorci, ond yn hytrach na gwastraffu cyfle penderfynodd Angharad Lee, y cyfarwyddwr artistig, ddefnyddio’r arian a’r egni a fyddai wedi cael ei wario ar y digwyddiadau hyn i greu prosiect newydd a oedd yn gweddu i’r dim i’n sefyllfa bresennol o feudwyo. Dyma oedd gan Angharad i’w ddweud:
“Daeth yn amlwg ym mis Mawrth 2020 na fyddem yn gallu parhau gyda’r Sioeau Cerdd Cwta eleni, oedd yn dristwch mawr i ni, ond buan y sylweddolais y gallem, gyda chefnogaeth ein cyllidwyr, Cyngor Celfyddydau Cymru, a’n partneriaid – Theatrau RhCT a Theatrau Sir Gâr – wneud rhywbeth yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, yn ystod y cyfnod anodd hwn, sef ailgyfeirio’r arian a gawsom ar gyfer Sioeau Cerdd Cwta er mwyn datblygu prosiect y byddai teuluoedd yn gallu cymryd rhan ynddo yn eu cartrefi, er mwyn cadw’r creadigrwydd i lifo yn ogystal â darparu cyflogaeth yr oedd angen mawr amdano ar gyfer artistiaid llawrydd proffesiynol, ar adeg pan oedd y rhan fwyaf o artistiaid llawrydd wedi gweld eu gwaith yn diflannu dros nos.”
Yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr profiadol, gwneuthurwr theatr, ac addysgwr yn y Celfyddydau, mae Angharad yn Asiant Creadigol ar y cynllun arloesol Ysgolion Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae ei gwaith yn gwreiddio creadigrwydd mewn ysgolion wedi ei helpu i ystyried sut i ddatblygu prosiect a allai barhau â’r gwaith hwnnw mewn cartrefi ar draws Cymru
“Felly fe ges i’r syniad am y Teulu Sgwigl – prosiect addysgu gartref creadigol a syml iawn y gallai teuluoedd gyfranogi ohono ac a fyddai’n darparu llwybr creadigol a chyflog ar gyfer artistiaid yng Nghymru. Y syniad yw bod pobl yn darlunio Sgwigl sy’n datblygu’n gymeriad ar sail mewnbwn oddi wrthym ni. Mae’r cymeriad yn datblygu’n stori fer, gyda chefnogaeth, ac ar sail y stori mae ein cyfansoddwyr yn creu cân am eich Sgwigl chi. Buom yn gweithio gyda rhyw 40 o deuluoedd a chreu teulu anferth o Sgwigls a chaneuon. Maen nhw’n fendigedig.”
Crëwyd caneuon Sgwigl yn Gymraeg a Saesneg, neu fel barddoniaeth yn Iaith Arwyddion Prydain, gan Bill Taylor-Beales, Sam Bees, Donna Williams a Siôn Tomos Owen.
Mae Bill yn byw yn Llanelli ac yn gyfansoddwr, yn awdur a chanwr caneuon sydd wedi teithio’n fyd-eang. Mae e hefyd yn ymarferydd Celfyddydau Creadigol llawrydd profiadol iawn sy’n gweithio’n gyson mewn ysgolion, gan arbenigo mewn ysgrifennu a recordio caneuon, creu ffilmiau, animeiddio, cyfryngau gweledol cymysg, testun creadigol, adrodd straeon, cerflunio, cerddoriaeth a phortreadu.
Bu Sam, o Dreorci, yn astudio actio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac ers iddo raddio yn 2007 mae wedi troi ei law at ysgrifennu dramâu a chaneuon, a hwyluso gweithdai creadigol. Yn ddiweddar, cymerodd ran yn y Sioeau Cerdd Cwta gyda Leeway yn Llanelli.
Mae DL yn fardd byddar sy’n gweithio drwy gyfrwng y Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain. Mae gweithio mewn gwahanol ieithoedd wedi ysbrydoli diddordeb dwfn ynddi mewn cyfieithu a sut y gellir rhoi mynediad i’w gwaith ar gyfer pobl sy’n gallu arwyddo neu beidio. Mae hi wedi perfformio o gwmpas y Deyrnas Unedig gan gynnwys yng Ngŵyl Ymylol Caeredin a Neuadd Albert, yn ogystal ag yn America a Brasil. Mae nifer o’i cherddi wedi cael eu cyhoeddi – maen nhw’n trafod nifer o themâu gan gynnwys dwyieithrwydd, hunaniaeth, a’i chathod annwyl.
Cyflwynydd radio a theledu dwyieithog ar S4C, BBC a BBC Radio Cymru yw Siôn, sy’n dod o Gwm Rhondda, ac mae’n awdur cerddi, rhyddiaith a llyfrau Cymraeg ar gyfer dysgwyr. Mae’n gymeriadwr ac yn ddarlunydd sy’n gweithio gyda chyhoeddwyr ac awduron.
Wrth edrych i’r dyfodol, rydym yn chwilio am bartneriaid i’n helpu i fynd â’r prosiect Sgwigls ymhellach trwy weithio gydag animeiddwyr i ddod â’r cymeriadau’n fyw yn weledol. Cymerwch gipolwg ar rai o’r Sgwigls yma, ac ewch i’n sianel YouTube i weld y rhestr lawn.
King Slime gan Jack Thompson
Gwen Gwybodus gan Mari Roberts
Bobby the Bouncing Blob gan Maisie
Mae’r prosiect hwn yn arbennig o addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2. Gallwn gyflwyno’r prosiect yn Gymraeg, Saesneg neu Iaith Arwyddion Prydain.
Os hoffech i’ch dosbarth neu ysgol fod yn rhan o brosiect Sgwigls, anfonwch ebost atom.