Chwilio am gyfansoddwr

Mae Cynyrchiadau Leeway yn chwilio am gyfansoddwr benywaidd

Mae Cynyrchiadau Leeway yn chwilio am gyfansoddwr benywaidd i weithio gyda nhw ar un o'u prosiectau nesaf.

 

Os wyt ti'n gyfansoddwraig, ar unrhyw adeg yn dy yrfa, sydd â diddordeb mewn ymchwilio i fywydau grŵp o Famau sengl hollol awesome o Gymru, yna cysylltwch.

 

Ma hwn ynst alwad cam 1af, sy'n golygu ein bod am ymgysylltu â chi ar gychwyn y prosiect hwn, gan sicrhau bod gennych gymaint o fewnbwn i'r broses greadigol a'r penderfyniadau â phosibl.

 

Gyda nifer y Mamau sengl ar draws y byd ar gynnydd, rydyn ni'n edrych ymlaen at roi llais i rhai ohonynt.

 

Am bwy rydyn ni'n chwilio?

 Chi siwr o fod!. Os yw'r prosiect hwn yn troi eich pen mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni. Mae'n lyfli i gysylltu â phobl newydd.

 

Ffi cychwynnol:: £1500

Mae hyn yn cynnwys tua 10 diwrnod yn gweithio gydag Angharad Lee a'r Mamau sengl wrth i ni ddechrau archwilio.

 

Cais:

Anfonwch beth bynnag rydych chi'n teimlo sy'n briodol. Gall fod cyn lleied neu gymaint o'ch gwaith ag yr hoffech. Nid ydym am wneud y cais hwn yn anodd i chi, felly cymerwch chi yr awenau.

 

Dyddiad cau: Mawrth 31st 2023 am 6yh.

 

Ebost: leewayprods@gmail.com yn nodi CYFANSODDWR SIREN fel y pennawd.

Llun gan Becky Davies

Gwnaed y rôl hon yn bosibl gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Diolch.

 

CY
Skip to content