WYDDECH CHI FOD Y PORTH MOR LLAWN O WELEDIGAETH NES BOD GANDDO EI GRATER EI HUN AR Y BLANED MAWRTH? OES, WIR I CHI.
(Ei leoliad yw 21.4°Gogledd, 255.9°Gorllewin, a’i ddiametr yw 9.3 cilomedr.)
Edrychwch ar y 'flipbook' hyfryd yma gan Becky Davies
Diolch i’r gronfa Cysylltu a Ffynnu a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Cynyrchiadau Leeway, Menter Iaith Rhondda Cynon Taf ac Age Cymru wedi sefydlu partneriaeth newydd i weithio’n benodol yn y Porth, Rhondda.
Fesul stryd, mae’r prosiect hwn yn gatalydd i agor calonnau a meddyliau, i edrych i fyny a dychmygu ein hunain yn y dyfodol, yno, a byddwn yn mynd â’r darnau gorau ohonom gyda ni. Nod y prosiect yw adeiladu ar yr hyn sy’n gryf, nid ar yr hyn sy’n wan. Gwenwch eich gorau gyda’r hyn sydd gennych chi.
Trwy sbarduno’r dychymyg i weld y tu hwnt i’r naratif dan arweiniad tlodi sydd wedi cael ei fwydo i ni dros y blynyddoedd, bydd yr ymchwiliad cychwynnol hwn yn grymuso ein cymuned i gymryd y penderfyniadau sy’n fanteisiol iddi hi, yn deillio o’r hyn sy’n gweithio’n wych o fewn ein cymuned. Bydd Porth y Cwtsh yn ein hannog ni oll i weld y gorau ynom ein gilydd, ein hieithoedd a’n cartref, a bod yn arbenigwyr ar ein bywydau ni ein hunain.
Yn y pen draw, ein nod ar y cyd yw annog trigolion y Porth i fod ymhlith ei gilydd, a’n hatgoffa ni i gyd bod Diwylliant yn gyffredin, yn ein plith ni, yn rhan ohonom, gennym ni, ac ar ein cyfer ni.
Os ydych chi’n byw yn y Porth, cysylltwch â ni– byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
Want to know more? Check out the videos on our AM channel via link below:
PORTH Y CWTSH ON OUR AM CHANNEL
Thanks to THE STAGE for throwing some light on our project. Link below:











