Cyfle Cynhyrchydd

Gwnaed yn bosibl gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Mae Cynyrchiadau Leeway yn chwilio am gynhyrchydd sydd ag angerdd am Theatr Gerddorol, neu ddiddordeb ynddo, yn ei ystyr ehangaf. Mae'r rôl hon yn benodol i'r prosiect hon, ac mi fyddwch yn helpu i yrru'r cwmni tuag at gyflawni ei uchelgeisiau hirdymor.

Mae twf Leeway dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn wych i weld ac mae angen cymorth ymarferol ar y Cyfarwyddwr Artistig erbyn hyn.

Ffi: £6000

Oriau: 35 diwrnod (neu gyfwerth â tua 6 wythnos o waith)

Gweithio gyda: Cyfarwyddwr Artistig, Aelodau Cyswllt Creadigol, Bwrdd a Rheolwr Marchnata

Cyfnod y gwaith Medi 2021-Ionawr/Chwefror 2022

Lleoliad: Cymru, er y gellir gwneud llawer o'r gwaith hwn o gartref felly ni’n agored i gynhyrchwyr o bob cwr o'r DU

Sut i wneud cais: Anfonwch CV a nodyn eglurhaol, nodyn llais neu fideo i leewayprods@gmail.com Nodwch Y CYNLLUN CYNHYRCHYDD yn y pennawd pwnc.

Dyddiad cau: Medi 17eg am 5pm

Cyfanswm y Diwrnodau: 35

Gwnaed y rôl hon yn bosibl gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Rôl a chyfrifoldebau am y cam hwn o'r gwaith:

  • Paratoi / Darllen / Ymgynghori gyda’r Cyfarwyddwr Artistig / Cytuno ar gynllun gwaith: 2-3 diwrnod
  • Ymgynghori / Deall a chreu cynllun rheoli prosiect amlinellol ar gyfer prosiectau Leeway yn ôl y gofyn. 3 Diwrnod fesul prosiect x 3 prosiect: 9 diwrnod.
  • Costau a ffioedd ymchwil / Cynhyrchu cyllidebau. 3 Diwrnod fesul prosiect x 3 Prosiect: 9 diwrnod.
  • Creu contractau / Ffeiliau cydymffurfio sy'n barod i'w defnyddio a'u cymhwyso: 4 Diwrnod
  • Ymgynghori ynghylch ac ymchwilio i bartneriaethau arfaethedig presennol; sefydlu cysylltiadau a threfnu cyfarfodydd / trafodaethau. Ymgysylltu â phartneriaid. Adolygu a diwygio canlyniadau sy'n ddymunol ar y cyd. 2 Ddiwrnod fesul partneriaeth x 4 partneriaid: 8 diwrnod.
  • Adroddiad diwedd y prosiect a throsglwyddo: 2 ddiwrnod.
  • Teimlo'n gyfforddus i gael mewnbwn creadigol bob amser i gynlluniau Leeway ar gyfer y dyfodol: Parhaus
CY
Skip to content