ACADEMI LEEWAY GALWAD AGORED
Mae Cynyrchiadau Leeway, mewn partneriaeth â Theatr Soar a Theatr Genedlaethol Cymru, yn lansio ail brosiect Academi Leeway, academi theatr gerddorol ar lawr gwlad i bobl ifanc 14–25 oed – ac rydym yn awyddus i glywed gennych chi.
Yn galw pobl ifanc Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot!
Hoffi sioeau cerdd? Eisiau canu caneuon newydd sydd wedi eu sgwennu dim ond i chi? Eisiau perfformio mewn sioeau cerdd rydych chi wedi’u creu eich hun?
Dyma gyfle gwych unwaith eto i greu eich sioeau cerdd bach newydd eich hun, a’u perfformio nhw’n fyw yn Theatr Soar, Merthyr.
Cymaint oedd llwyddiant ein prosiect cyntaf, rydym nawr wrth ein bodd fod Sefydliad Ashley, Moondance ac Elusen Margaret Davies yn ein cefnogi ar gyfer y rhaglen hon o waith newydd.
Rydym yn chwilio am bobl ifanc sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau creadigol, sydd â diddordeb mewn creu neu berfformio theatr gerddorol, ac sy’n barod i wthio’r ffiniau. Rydym yn croesawu cantorion, cerddorion, cyfansoddwyr, awduron, dylunwyr, beirdd, bocswyr cur (beatboxers), artistiaid neu berfformwyr o unrhyw fath. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch – dim ond angerdd am fod yn rhan o rywbeth newydd sy’n perthyn i chi.
Mwy o wybodaeth am yr Academi yma:
https://leewayproductions.com/cy/academi/
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Academi Leeway, neu am y broses ymgeisio, cysylltwch â Cathy Boyce neu Angharad Lee ar: cbleewayprods@gmail.com
Prosiect 2
Bydd ein hail brosiect, 'Dan dy Draed'yn eich gweld yn gweithio gydag awduron a chyfansoddwyr proffesiynol ac yn creu a pherfformio’n fyw mewn 3 sioe gerdd fach newydd sbon, a’r cyfan yn seiliedig ar straeon rydych chi am eu hadrodd. am eu hadrodd. Ynghyd â chyfarwyddwr, byddwch yn creu gwaith i’w berfformio yn Theatr Soar ym mis Mai 2022.
Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau dawns/symud, llais ac actio, gan feithrin sgiliau newydd drwy gydol yr wythnosau
Rydym yn chwilio am hyd at 15 o bobl ifanc 14–25 oed i fod yn rhan o’r prosiect. Mae hwn yn gyfle dwyieithog, ac rydym yn annog y rhai ohonoch nad ydych yn siaradwyr Cymraeg rhugl, ond sy’n awyddus i weithio mwy yn y Gymraeg, i wneud cais ac ymuno gyda ni. Byddwn yn eich cefnogi ar hyd y daith.
Lleoliad: Theatr Soar, Merthyr
Dyddiau: Nosweithiau Mawrth
Amser:: 4.20-7.30pm
Dyddiadau: 1 Mawrth 2022- 10 May 2022
Perfformiadau:
-Wythnos 16 Mai, Theatr Soar
Amserlen
Cam 1: Gwneud Cais
Os ydych rhwng 14 a 25 oed ac yn dod o un o’r ardaloedd uchod, mae croeso mawr i chi wneud cais. Rydym yn agored i geisiadau gan unrhyw un sydd ag awydd i greu a gweithio gyda deunydd theatr gerdd newydd. Mae Leeway yn gwmni sy’n hyderus o ran amrywiaeth, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi unrhyw anghenion mynediad sydd gennych.
Ddiddordeb? Llenwch y ffurflen isod:
https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSczF7bEsmacTVK-jSOPokG0HLwsOdTgnAYQFXaGqJvtGuR7cw/viewform
Dydddiad Cau: Ymunwch unrhywvryd
Cam 2: Troi i fyny
Mae’r tîm yn edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â phob un ohonoch chi a chael amser gwych yn creu a gwneud theatr eto. Mewn person!!